Llyfr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn Ennill Gwobr Cymdeithas Hanes Amaethyddol Prydain 2026
Mae Dr Shaun Evans o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Goffa Joan Thirsk 2026 gan Gymdeithas Hanes Amaethyddol Prydain am y Llyfr Gorau yn y categori Hanes Gwledig neu Hanes Amaethyddol Prydain neu Iwerddon.
Dyfarnwyd y wobr i Shaun am ei lyfr, Coming of Age Celebrations on Welsh Landed Estates: Gentry, Culture and Society, c.1770鈥1920, a gyhoeddwyd gan Boydell & Brewer y llynedd.
Mae'n rhannu gwobr 2026 gyda'r Athro Mark Bailey o Brifysgol Dwyrain Anglia am ei gyhoeddiad, Serfdom in England: Theory and Practice 1200 to 1500.
Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Amaethyddol Prydain yn 1952 i hyrwyddo astudiaeth hanes amaethyddol a hanes y gymdeithas a鈥檙 economi wledig. Mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi'r Agricultural History Review a Rural History Today, ac yn ogystal 芒 threfnu rhaglen reolaidd o gynadleddau a seminarau academaidd i hyrwyddo ymchwil ym maes hanes gwledig, maent yn cynnal LIBRAL: The Library of Rural and Agricultural Literature.
Yn 2017 sefydlodd y Gymdeithas Wobr Goffa Joan Thirsk i anrhydeddu un o'i chyn-lywyddion a sylfaenwyr. Roedd Dr Joan Thirsk (1922-2013) yn un o brif haneswyr ei chenhedlaeth, gan ddylanwadu鈥檔 fawr ar ddatblygiad hanes amaethyddol a hanes gwledig, ac arloesi ysgolheictod ar draws sawl maes o hanes cymdeithasol, hanes economaidd, hanes modern cynnar a hanes lleol. Hi oedd golygydd cyffredinol y gyfres nodedig, The Agrarian History of England and Wales.
Mae Gwobr Joan Thirsk yn bodoli er cof amdani hi a鈥檌 chyfraniad aruthrol at ysgolheictod hanesyddol.
Wrth ddyfarnu鈥檙 wobr i Dr Evans, nododd y Pwyllgor Gwobrwyo fod Coming of Age Celebrations on Welsh Landed Estates 鈥測n llenwi bwlch sylweddol wrth egluro sut roedd ystadau tiriog yn gweithio yng Nghymru. Drwy ddull rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno dadansoddi fforensig 芒 disgrifiadau bywiog, mae Evans yn defnyddio dathliadau dod i oed i ddarparu dealltwriaeth ddiddorol i gymunedau cyfan, gan gynnwys y rhai sydd ar frig ac ar waelod hierarchaethau cymdeithasol.鈥
Wrth ymateb i'r wobr, dywedodd Shaun: 鈥淩ydw i wrth fy modd yn clywed bod fy llyfr yn gyd-enillydd Gwobr Joan Thirsk 2026. Mae'n anrhydedd enfawr i mi, nid yn unig oherwydd pwy mae'r Wobr yn ei choff谩u 鈥 mae Joan Thirsk yn ysbrydoliaeth barhaus i unrhyw un sy'n ymchwilio i hanes gwledig a hanes amaethyddol 鈥 ond hefyd oherwydd rhestr yr enillwyr blaenorol, yr ydw i鈥檔 edmygu eu gwaith yn fawr. Rydw i wrth ben fy nigon!鈥
Ychwanegodd Shaun: 鈥淵n 2021, tua鈥檙 adeg y dechreuais fy ymchwil, cefais wahoddiad gan Gymdeithas Hanes Amaethyddol Prydain i gyflwyno rhai o鈥檓 syniadau cychwynnol fel rhan o'u Cyfres Darlithoedd Ar-lein y Gwanwyn. Chwaraeodd yr adborth, y cwestiynau a'r awgrymiadau a gefais fel rhan o'r digwyddiad ran bwysig wrth lunio fy nadleuon, felly hoffwn ddiolch i'r Gymdeithas am gefnogi鈥檙 ymchwil.鈥
Bydd Shaun yn derbyn y Wobr yng Nghynhadledd Gwanwyn a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Hanes Amaethyddol Prydain yn Sheffield ddechrau fis Mai.
Mae rhagor o wybodaeth am Wobr Goffa Joan Thirsk ar gael ar .
Mae adroddiad ar lansiad llyfr Shaun, sy'n archwilio rhai o brif them芒u a dadleuon yr ymchwil, ar gael ar ein gwefan.
Mae'r llyfr ar gael i'w brynu . I ddathlu'r Wobr, maent yn cynnig gostyngiad arbennig ar y llyfr. Mae'r cod EMH26 yn rhoi gostyngiad o 50% a chludiant am ddim tan 31 Mai 2026.