½ñÈÕºÚÁÏ

Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn gweithio mewn grŵp yn un o stafelloedd darllen traddodiadol y Brifysgol, yn y Prif Adeilad

Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau

Myfyriwr yn darllen yn llyfrgell Shankland.

Staff a Myfyrwyr Ein gwasanaethau i staff a myfyrwyr

I wybod mwy am ein gwasanaethau sydd ar gael i staff a myfyrwyr yn cynnwys chwilio am lyfrau, cwestiynau a ofynnir yn aml ac adnoddau digidol, ewch i'n tudalennau mewnol. 

Oriau Agor

Mynediad gyda'r nos a'r penwythnos i'r Brif Lyfrgell

Bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad i'r llyfrgell ar ôl 5yp yn ystod yr wythnos, a thrwy gydol y cyfnod agor dros y penwythnos

Does dim mynediad uniongyrchol i/o'r llyfrgell drwy brif adeilad (ystafell ddarllen Lloyd) ar benwythnosau. Defnyddiwch brif fynedfa'r llyfrgell.

Oriau Agor

DyddOriau AgorOriau Cymorth
Llun – Gwener09:00 – 20:0009:00 – 20:00
Sadwrn12:00 – 17:0012:00 – 17:00
SulAr gau 

Mae’r llyfrgell ar Gampws Wrecsam yn darparu adnoddau helaeth i staff a myfyrwyr sy’n gweithio ac yn astudio ar y safle, ac mae’n cynnwys casgliadau print nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg a gwyddorau iechyd.

Yn ystod oriau gwasanaeth gyda staff (gweler y tabl isod) mae ein tîm cefnogaeth wrth law i'ch helpu gyda'n gwasanaethau a'n cyfleusterau. Gallwch gysylltu â'r tîm trwy anfon e-bost i llyfrgell@bangor.ac.uk

Oriau Agor

DyddOriau AgorOriau Cymorth
Llun – Gwener10:00 – 16:0010:00 – 16:00
Sadwrn - SulAr gauAr gau

Cangen y llyfrgell oddi ar gampws y Brifysgol ar safle Diwydiannol Llandygai yw'r Gadwrfa Ymchwil. Mae'n gartref i gasgliad mawr o ddeunydd argraffedig prin, gan gynnwys amrywiol gasgliadau a roddwyd a thraethodau ymchwil Prifysgol Bangor.

Oriau Agor

DyddOriau StaffOriau Agor
Llun, Mercher, Iau08:00 – 16:00Yn ôl apwyntiad yn unig
Mawrth, Gwener, Sadwrn, SulWedi CauWedi Cau

Mae ein hystafelloedd cyfrifiadurol a’n mannau dysgu cymdeithasol wedi eu lleoli ar lefel 5 adeilad Pontio (bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad ar adegau).

Mae cyfrifiaduron desg sefydlog ar gael i chi eu defnyddio (wedi eu ffurfweddu ar hyn o bryd ar gyfer gweithio'n ddiogel yn unol â rheoliadau Covid). 

Mae hefyd ddigon o le i weithio gyda'ch gliniadur/llechen gyda chysylltiad diwifr a digon o socedi i ailwefru.

Mae’r lleoliadau yn adeilad Pontio yn agored am oriau maith a gallwch fwynhau cyfleusterau eraill Pontio hefyd, sy’n ei wneud yn lle gwych i weithio yn eich amser eich hun.

Gall unrhyw un ymweld â’r Brif Lyfrgell neu â Llyfrgell Wrecsam i bori drwy’r adnoddau ar ein silffoedd a’u defnyddio at ddibenion cyfeirio. Gallwch chwilio gartref, neu yn defnyddio’r cyfrifiaduron catalog yn y llyfrgell.

Mae holl ddeunydd y Gadwrfa Ymchwil i’w weld yng nghatalog y llyfrgell. I wneud apwyntiad i ymweld â'r llyfrgell, e-bostiwch eresources@bangor.ac.uk.

Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, trigolion gogledd Cymru sy’n aelodau o’u llyfrgell gyhoeddus leol, a staff a myfyrwyr prifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd o bosibl yn gymwys i fod yn aelodau benthyca o’r llyfrgell.

Sylwch fod cyfrifon aelodaeth allanol yn cael eu prosesu rhwng 8:30yb a 5:00yp yn unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at llyfrgell@bangor.ac.uk.

Manylion Cyswllt a Lleoliad

Y Brif Lyfrgell, Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG

Y Brif Lyfrgell

Y Brif Lyfrgell, Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG

Llyfrgell Wrecsam, Berwyn House, Archimedes Centre, Wrecsam Technology Park, Wrecsam. LL13 7YP

Llyfrgell Wrecsam

Llyfrgell Wrecsam, Berwyn House, Archimedes Centre, Wrecsam Technology Park, Wrecsam. LL13 7YP