Bob blwyddyn ers 1922, mae pobl ifanc Cymru wedi anfon neges heddwch i'r byd: yn erbyn cefndir o wrthdaro byd-eang, mae neges eleni yn dangos bod heddwch yn siarad pob iaith, ag trefnu鈥檙 neges. Bydd y neges yn cael ei chyhoeddi heddiw, ddydd Mawrth, 19 Mai.
Eleni darlithydd o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor sydd wedi ysgrifennu鈥檙 gerdd heddwch, Dr Marged Tudur. Cyfansoddodd y neges ar y thema 鈥業eithoedd Lleiafrifol鈥 mewn partneriaeth 芒 myfyrwyr o Brifysgol Wrecsam, Coleg Cambria ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Mae'n archwilio'r r么l hanfodol y mae ieithoedd lleiafrifol, rhanbarthol a brodorol yn ei chwarae wrth feithrin empathi, perthyn a chydfodolaeth heddychlon. Un o'r ieithoedd sydd wedi'i chyfieithu yw Cwrdeg, iaith leiafrifol ym mhob un o'r gwledydd lle caiff ei siarad, gan gynnwys Iran a Syria sydd wedi'u rhwygo gan ryfel ar hyn o bryd.
Meddai Marged Tudur: 鈥淢ae wedi bod yn fraint cael ysgrifennu neges heddwch yr Urdd eleni a chael gweithio gyda phobl ifanc Wrecsam sy'n gweld ieithoedd lleiafrifiedig yn hanfodol er mwyn adeiladu heddwch ac er mwyn gallu dod i ddeall ein hunain, ein gilydd a'r byd yn well. Pan fo cymaint o rethreg beryglus yn meddiannu'r cyfryngau torfol, mae lleisiau pobl ifanc Wrecsam a Chymru yn cynnig gobaith. Rwy'n hynod o falch bod y gerdd wedi'i chyfieithu i dros 75 o ieithoedd ac yn cael ei chyhoeddi ar blatfformau gwahanol ar draws y byd.鈥
Yn erbyn cefndir gwrthdaro byd-eang sy鈥檔 cynnwys Wcr谩in-Rwsia, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol yr Urdd rhif 104 eleni yn cael ei lansio mewn lleoliad eiconig - Spotify Camp Nou, cartref FC Barcelona.
Mae'r lansiad yn Spotify Camp Nou - safle sydd 芒 chysylltiad dwfn 芒 hunaniaeth yr iaith Gatalaneg - yn tynnu sylw at wydnwch ieithoedd lleiafrifol a phwysigrwydd parchu pob diwylliant.
Bydd neges eleni yn cael ei chyfieithu i 75 o ieithoedd, gan gynnwys mwy o ieithoedd lleiafrifol nag erioed, a disgwylir iddi gyrraedd mwy na 40 miliwn o bobl. Dyma'r unig neges heddwch genedlaethol yn y byd sydd wedi'i hysgrifennu a'i rhannu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.