Dechreuodd yn ei swydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar 20 Mai.
Cafodd y Fonesig Elan, a dderbyniodd Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2019, ei geni yng Ngwynedd. Hi yw un o weision cyhoeddus mwyaf nodedig Cymru, gyda phrofiad helaeth yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth ac addysg uwch.
Ymhlith ei rolau niferus, mae hi'n Gomisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, bu'n Gadeirydd Dros Dro i'r BBC rhwng 2023 鈥 2024, ac mae hi'n Athro Emerita mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae hi hefyd yn Ddirprwy-Ganghellor.
Meddai y Fonesig Elan, 鈥淢ae gennym Lywodraeth newydd sy鈥檔 addo dechrau newydd. Hoffwn i鈥檙 Llywodraeth honno, ac yn wir busnes a diwydiant a chyrff cyhoeddus, fod yn ymwybodol o鈥檙 cyfoeth sydd ar gael iddynt ac i ddefnyddio ein Cymrodoriaeth fel adnodd i wella bywyd Cymru.
鈥淯n diben sydd i鈥檔 holl weithgarwch. Gwneud Cymru, yn ei bywyd gwyddonol, cymdeithasol a diwylliannol, yn fwy cynaliadwy, yn fwy grymus, ac yn fwy uchelgeisiol. A thrwy wneud hynny, rydym hefyd yn dathlu cryfder deallusol ein cenedl.鈥
Meddai Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, 鈥淩ydym yn gyffrous ein bod yn mynd i fod yn gweithio mor agos gyda鈥檙 Fonesig Elan yn y dyfodol.
鈥淢ae鈥檙 chwe blynedd ddiwethaf, gyda Hywel Thomas wrth y llyw, wedi gweld twf mawr yn y Gymdeithas, gyda llawer o arloesedd a chynnydd.
鈥淢ae鈥檙 cyfle i adeiladu ar hynny, gyda鈥檙 safbwyntiau unigryw, y sgiliau a鈥檙 cysylltiadau y mae鈥檙 Fonesig Elan yn eu cyflwyno, yn golygu ein bod yn hyderus y bydd y Gymdeithas yn parhau i chwarae rhan weithgar ym mywyd dinesig ac academaidd Cymru.鈥
Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae'r Gymdeithas yn cynnwys 700 o Gymrodyr, academyddion, ymchwilwyr ac arweinwyr o fywyd dinesig a diwylliannol Cymru. Mae'n hyrwyddo ac yn datblygu cymuned ymchwil Cymru, ac yn cyfrannu at y trafodaethau am y polis茂au sy'n effeithio ar Gymru.
Mewn ymateb i鈥檙 cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Hywel Thomas FLSW, sydd wedi bod y Llywydd ers 2020, 鈥淩wyf wedi mwynhau fy amser fel Llywydd Cymdeithas Ddysgiedig, ac rwy鈥檔 gwybod y profiad gwych sydd yn wynebu鈥檙 Fonesig Elan.
鈥淢ae Cymru, y byd a鈥檙 amgylchedd ymchwil ac arloesi i gyd yn wynebu heriau. Felly, ni allai鈥檙 Gymdeithas obeithio am rywun gyda mwy o brofiad a doethineb i helpu i鈥檞 llywio drwy鈥檙 blynyddoedd sydd i ddod. Rwy鈥檔 dymuno鈥檙 gorau iddi.鈥