Gan ffurfio dwy gyfrol o tua 1,500 tudalen a 57 pennod, mae鈥檙 gwaith yn cynnig y cyfrif mwyaf cynhwysfawr hyd yma o chwedl Arthur, un o'r naratifau mwyaf dylanwadol yn niwylliant y Gorllewin. Mae'r casgliad yn olrhain datblygiad traddodiadau Arthuraidd o'r bumed ganrif hyd heddiw, gan symud o bortreadau hanesyddol o Arthur ac mewn llenyddiaeth ganoloesol i bortreadau modern ohono mewn ffilm, llenyddiaeth a chyfryngau digidol. Mae'n dod ag ysgolheigion blaenllaw'r byd ynghyd i archwilio'r chwedl ar draws ieithoedd, diwylliannau a disgyblaethau, gan gynnwys llenyddiaeth, hanes, celf, gwleidyddiaeth a'r cyfryngau, gyda safbwyntiau byd-eang o Ewrop i Awstralia, Affrica a De America.
Mae cyfres Cambridge History yn cael ei chydnabod yn eang am gyhoeddi cyfeirlyfrau awdurdodol a fwriadwyd i lunio maes am genedlaethau. The Cambridge History of Arthurian Literature and Culture yw'r hanes cyntaf o astudiaethau Arthuraidd i gwmpasu pob cyfnod o'r Oesoedd Canol cynnar i'r unfed ganrif ar hugain mewn un project integredig.
Dywedodd yr Athro Radulescu, 鈥淩oeddwn wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i gyd-olygu鈥檙 gwaith hwn yn 么l yn 2019 ac i lunio ei gynnwys o鈥檙 camau cynharaf hyd at ei gwblhau, o fapio cwmpas y cyfrolau i weithio鈥檔 agos gyda chyfranwyr dros sawl blwyddyn. Mae fy mhrofiad o ymchwilio i astudiaethau Arthuraidd dros y 25 mlynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth yn wirioneddol yn y cyhoeddiad nodedig hwn, sy鈥檔 canolbwyntio鈥檔 fawr ar ddyfodol y maes.
鈥淢补别&苍产蝉辫;驳辞濒测驳耻鈥檙&苍产蝉辫;Journal of the International Arthurian Society a'i lyfryddiaeth flynyddol, a darparu fy ngwasanaeth academaidd i'r gymdeithas mewn gwahanol rolau, yn fwyaf diweddar fel ei llywydd rhyngwladol etholedig (2024-27), wedi fy mharatoi鈥檔 dda ar gyfer maint ac uchelgais y project hwn.
鈥淩oedd ysgrifennu鈥檙 rhagarweiniad i鈥檙 ddwy gyfrol hefyd yn cynnig cyfle i adfyfyrio ynghylch sut mae traddodiadau Arthuraidd wedi datblygu a sut maen nhw鈥檔 parhau i lunio meddwl diwylliannol, llenyddol a gwleidyddol o鈥檙 cyfnod canoloesol hyd heddiw.鈥
Mae'r cyhoeddiad yn adeiladu ar gryfder hirhoedlog y Brifysgol yn y maes hwn, gan gynnwys y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, ei chymuned 么l-radd fywiog, a phroject Rhwydwaith Doethurol newydd MSCA, EUARTHURS: Arthuriaid Ewropeaidd, o'r Oesoedd Canol i'r Oes Fodern, dan arweiniad yr Athro Radulescu gyda th卯m o ysgolheigion ar draws 6 o wledydd Ewrop.
Cynheliwyd lansiad ar-lein The Cambridge History of Arthurian Literature and Culture ddydd Gwener, 24 Ebrill. Roedd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth ford gron gyda chyfranwyr a golygyddion, gan gynnwys yr Athro Emeritws P. J. C. Field (Prifysgol Bangor), yr Athro Emeritws James Simpson (Prifysgol Harvard), a'r Athro Emeritws Andrew Lynch (Prifysgol Gorllewin Awstralia a chyn-lywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol).