Rydyn ni’n dod atoch chi
Mae Prifysgol Bangor yn teithio o gwmpas ysgolion y De i gynnig profiad uniongyrchol o fywyd myfyrwyr drwy’r Gymraeg.
Bydd yn gyfle gwych i’ch chweched dosbarth glywed gan fyfyrwyr a Llywydd UMCB am sut beth yw byw a dysgu mewn cymuned Gymraeg fywiog, gefnogol ac ysbrydoledig.
Byddwn yn falch iawn o gydweithio gyda’ch ysgol i greu profiad addysgol ysbrydoledig ac addas i’ch disgyblion.
Sesiynau Blasu Academaidd
Yn ogystal â’r sesiwn holi ac ateb gyda’n myfyrwyr, bydd ein darlithwyr ar gael i arwain sesiynau blasu sy’n berthnasol i’ch disgyblion. Gallwch ddewis o’r rhestr o sesiynau penodol isod, neu ofyn am sesiwn wahanol sy’n gweddu i’ch anghenion.
Cymdeithaseg
- Arbenigedd mewn dulliau ymchwil – Sesiwn ymarferol i fyfyrwyr sy’n astudio’r Fagloriaeth Lefel A, gyda’r nod o ddatblygu sgiliau ymchwil a gweithio ar y prosiect unigol.
Y Gyfraith
- Cyfraith Droseddol: Y Sylfeini – Cyflwyniad i’r hyn sy’n gwneud gweithred yn drosedd a sut mae’r wladwriaeth yn ymateb i ymddygiad troseddol.
- O’r Drosedd i’r Llys – Taith gam‑wrth‑gam drwy’r broses o ymchwilio, arestio a chyhuddo unigolyn o dan y gyfraith droseddol.
Meddygaeth
- Dyn a’i Gi – cyflwyniad rhyngweithiol o achos clinigol
- Ymwrthedd Gwrthfiotig – un o brif heriau iechyd y byd
- O ble daw’r pandemig nesaf a beth allwn ni ei wneud?
Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
- Cig coch - yn fwy "gwyrdd" nag yr ydych chi’n ei feddwl? – Sesiwn yn edrych ar y ffeithiau ynglŷn â'r ddadl ynghylch beth yw deiet cynaliadwy, gan ddefnyddio canlyniadau gwaith ymchwil gwyddonol yn hytrach na beth mae 'selebs' yn ei ddweud...
- Wyt ti'n 'waster'? – Sesiwn yn trafod yr heriau o ddelio efo gwastraff - y niwed amgylcheddol, sut mae newid ymddygiad, a rôl cwmnïau mawr ac unigolion i daclo'r broblem.
Nyrsio Plant
- Gofalu am y Bychain – Sesiwn Ymarferol mewn Nyrsio Plant
Cyfrifiadureg a Pheirianneg
- Dylunio – Sesiwn ymarferol am greadigrwydd o fewn y Bacc.
Seicoleg
- Dwy iaith, dwy galon? – Mae gwybod sut i siarad a deall mwy nag un iaith yn sgìl anhygoel, ac yn gallu cael effaith bositif ar yr ymennydd. Ond, oeddech yn gwybod fod iaith hefyd yn gallu newid y ffordd ‘da ni’n gweld y byd? Da ni’n gallu bod yn fwy emosiynol yn un iaith na’r llall, ‘da ni’n gallu ymddwyn yn wahanol yn y ddwy iaith, a ‘da ni’n fwy tebygol o goelio rhywbeth yn ein hiaith gyntaf. Mae meddwl am y gwahaniaethau hyn yn bwysig iawn yn y maes iechyd (e.e., wrth ddewis iaith sesiwn cwnsela) a’r maes cyfreithiol (e.e., wrth ddewis rheithgor (jury)).
Addysg
- Tu Ôl i’r Ddesg: Rho Gynnig ar Fod yn Athro – Wyt ti erioed wedi meddwl sut beth yw’r ysgol o ochr yr athro? Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion gamu i rôl athro, archwilio penderfyniadau dosbarth go iawn, a darganfod sgiliau, heriau a gwobrau’r proffesiwn - gan helpu i benderfynu a yw BA mewn Addysg gyda SAC yn addas i ti.
Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
- Os ydy Duw yn bodoli, pam nad ydy’r byd yn lle gwell? - Rhyfel, dioddefaint, anghyfiawnder – os ydy Duw yn dda ac yn hollbwerus, pam bod unrhyw un o’r rhain yn bodoli? Mae’r sesiwn hon yn wynebu un o’r cwestiynau mwyaf heriol mewn athroniaeth a chrefydd, gan annog myfyrwyr i ofyn nid yn unig a ydy Duw yn bodoli, ond a fyddai Duw sy’n caniatáu i’r pethau hyn ddigwydd yn werth credu ynddo o gwbl. Drwy ddefnyddio enghreifftiau o’n byd heddiw a thrwy drafodaeth, bydd dysgwyr yn archwilio ymatebion pwerus (o ewyllys rydd i’r syniad y gall dioddefaint lunio twf dynol) gan holi i ba raddau mae’r ‘atebion’ yn dal dŵr. Bydd y sesiwn yn berthnasol i’r Fagloriaeth Gymreig hefyd, oherwydd mae’n datblygu meddwl beirniadol, rhesymu moesegol, ac ymwybyddiaeth fyd-eang, gan wahodd dysgwyr i ymgysylltu â chwestiynau nad oes ganddynt atebion hawdd, ond sy’n bwysig iawn i’w trafod.
- Gwir bob gair? Beth sy'n gwneud gwybodaeth yn ddibynadwy? - Mewn byd o gyfryngau cymdeithasol a chamwybodaeth, sut ydym ni’n gwybod beth i’w gredu? Mae’r sesiwn hon yn cyflwyno cwestiynau athronyddol craidd am wybodaeth a gwirionedd: beth sy’n cyfrif fel tystiolaeth? Mewn beth neu bwy ddylem ni ymddiried? Drwy ddadansoddi enghreifftiau o’r byd go iawn, bydd dysgwyr yn mireinio eu gallu i ganfod rhagfarn, asesu dibynadwyedd, a meddwl yn feirniadol am ffynonellau gwybodaeth. Mae perthnasedd y sgwrs yn briodol i’r Fagloriaeth Gymreig hefyd oherwydd bydd yn ffordd o gryfhau llythrennedd digidol, meddwl beirniadol, a gwneud penderfyniadau gwybodus – sgiliau hanfodol ar gyfer llywio cymdeithas fodern.
- A ddylem ymddiried mewn Deallusrwydd Artiffisial i wneud penderfyniadau? - Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn rhan o fywyd bob dydd, pwy ddylem ni ymddiried ynddyn nhw i wneud penderfyniadau pwysig – pobl neu beiriannau? O farcio arholiadau i ofal iechyd, mae’r sesiwn hon yn archwilio’r cwestiynau moesegol a godir gan dechnolegau newydd: a all algorithmau fod yn deg? A ddylai effeithlonrwydd drechu barn ddynol? Hefyd yn hynod berthnasol i ffocws y Fagloriaeth Gymreig ar y dyfodol digidol, bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau wrth werthuso risg, pwyso a mesur gwerthoedd cystadleuol, a meddwl yn feirniadol am rôl technoleg mewn cymdeithas.
- Ddylet ti helpu’r byd? - A oes gennym ni ddyletswydd i helpu pobl y tu hwnt i’n bywydau a’n ffiniau ein hunain? Mae’r sesiwn hon yn trafod un o gwestiynau craidd moeseg: pa mor bell y mae ein cyfrifoldeb yn ymestyn? Trwy drafodaethau am dlodi byd-eang a newid hinsawdd, bydd dysgwyr yn archwilio syniadau am gyfiawnder, tegwch, a rhwymedigaeth foesol, gan ymgysylltu ag athronwyr dylanwadol fel Peter Singer. Bydd hefyd yn cyd-fynd yn berffaith â’r Fagloriaeth Gymreig oherwydd yr agweddau ar ddatblygu dinasyddiaeth fyd-eang, ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd, a gwneud penderfyniadau moesegol, gan ddangos sut mae meddwl athronyddol yn berthnasol i heriau’r byd go iawn.
Cymraeg
- Sgwennu Creadigol - Cyfle i roi cynnig ar ymarferion creadigol, i arbrofi a mentro, i ymestyn y dychmygu a miniogi synhwyrau.
Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i baru’ch ysgol â’r darlithwyr sy’n arbenigo yn eich dewis bwnc, efallai na fydd pob darlithydd ar gael ar bob dyddiad. Serch hynny, byddwn yn ceisio’n gorau i sicrhau bod y sesiwn yn adlewyrchu’r maes sydd o ddiddordeb i chi ac yn cynnig profiad o ansawdd uchel i’ch disgyblion.
Trefnu Sesiwn I'ch Ysgol
Er mwyn bwcio ymweliad a sesiwn academaidd, gofynnwn i chi gysylltu gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Pa ddiwrnod yn ystod yr wythnos 29 Mehefin - 3 Gorffennaf sydd orau i’ch ysgol.
- A yw slot bore neu brynhawn yn well i chi.
- Pa sesiwn/sesiynau academaidd sydd o ddiddordeb i chi o’r rhestr uchod.
Gellir addasu’r amseroedd os oes angen