今日黑料

Fy ngwlad:
Chester Wetlands

Project Gwlyptir Caer gwerth miliwn o bunnoedd wedi cael caniat芒d cynllunio

Mae syniad athro o Brifysgol Bangor i greu cynefin gwlyptir prin yng Nghaer wedi cael caniat芒d cynllunio ac wedi codi dros filiwn o bunnoedd.

Fel sy鈥檔 wir am y syniadau gorau i gyd - dechreuodd hwn mewn tafarn yn 2020, ac mae wedi tyfu i fod yn rhywbeth go iawn oherwydd ymdrech t卯m rhyfeddol a chefnogaeth rhai sefydliadau ac unigolion gwych. Nawr ein bod wedi cael caniat芒d cynllunio, byddwn yn gallu creu cynefin gwlyptir ardderchog gan gynnwys dolydd gwlyb - sydd bellach yn brin iawn yn y Deyrnas Unedig - i bobl Caer ei fwynhau. Fel gwyddonydd gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor, rwy鈥檔 gobeithio y bydd y project hwn yn helpu pobl i ddeall pa mor bwysig yw gwlyptiroedd nid yn unig i fywyd gwyllt ac isadeiledd ein gwlad, fel datrysiadau sy鈥檔 seiliedig ar natur, ond hefyd i鈥檔 hiechyd a鈥檔 llesiant ein hunain - nid yw鈥檔 syndod eu bod yn aml yn cael eu galw鈥檔 uwcharwyr natur!

Christian Dunn,  Athro mewn Gwyddorau Gwlyptir

Hyd yn hyn, mae cynllunio a datblygu Gwlyptir Caer wedi cael ei gefnogi gan dros 拢322,000 o gyllid gan Asiantaeth yr Amgylchedd mewn partneriaeth 芒 Cheshire West and Chester Council a The Land Trust i dalu am waith dylunio, arolygu a modelu.

Mae gwaith casglu data ac arolygon ychwanegol wedi cael eu gwneud gan fyfyrwyr o Brifysgol Bangor.

Mae'r fenter 鈥楴etworks for Nature鈥, dan arweiniad Sw Caer ac wedi'i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi rhoi 拢250,000 i'r project ac mae 拢500,000 pellach wedi'i sicrhau trwy ffynonellau ariannu amrywiol gan yr awdurdod lleol ar gyfer creu bioamrywiaeth.

Dywedodd Mr Scargill, Cadeirydd gr诺p Friends of Countess of Chester Country Park, 鈥淏ydd hwn yn ychwanegiad gwych i鈥檙 parc nawr bod gennym ganiat芒d cynllunio. Mae'n mynd i droi rhan o'r parc sy鈥檔 cael ei thanddefnyddio braidd yn rhywbeth arbennig iawn i bobl leol ei fwynhau am genedlaethau. Ni fydd Gwlyptir Caer yn cael ei greu dros nos, felly byddwn yn rhoi diweddariadau i ddefnyddwyr y parc a'r cyhoedd wrth i ni fynd ymlaen.鈥

Dywedodd Matt Clegg, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn y busnes lleol Binnies UK, a ddatblygodd y cynlluniau ar gyfer y gwlyptir, 鈥淔el rhywun sy鈥檔 byw yng Nghaer ac yn defnyddio鈥檙 parc, mae wedi bod yn bleser gweithio ar ddyluniadau i broject mor gyffrous. Mae'r cynllun yn cydbwyso creu cynefinoedd, trin d诺r a mynediad cymunedol mewn ffordd a fydd yn darparu budd hirdymor 鈥 mae'n mynd i fod yn arbennig iawn.鈥

Canmolodd Hannah Brooks, Uwch Reolwr Cyfranogiad Cymunedol yn Sw Caer, y project, gan ddweud, 鈥淩ydym yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid ledled Caer ac Ellesmere Port, fel rhan o鈥檔 menter 鈥楴etworks for Nature鈥, i greu tirwedd sy鈥檔 ffynnu i bobl a bywyd gwyllt ar draws y rhanbarth ehangach. Rydym yn teimlo鈥檔 gyffrous iawn y bydd Gwlyptir Caer yn rhan o鈥檙 project hwn fel cynefin hanfodol i rywogaethau brodorol y Deyrnas Unedig ffynnu, yn ogystal 芒 chynnig lle gwych i bobl ei fwynhau.

鈥淏ydd cyllid Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy鈥檔 cefnogi鈥檙 project hwn yn galluogi The Land Trust i osod mannau gwylio fel y gall ymwelwyr 芒鈥檙 ardal weld yr adar hirgoes, gweision y neidr yn plymio a鈥檙 amrywiaeth eang o blanhigion gwlyptir yn agos.鈥

Wrth roi ei gefnogaeth, dywedodd Mark Easedale, Rheolwr Amgylchedd Ardal yn Asiantaeth yr Amgylchedd, 鈥淒rwy ddarparu cyllid ochr yn ochr 芒 chefnogaeth dechnegol, rydym yn falch o helpu i gyflawni project sy鈥檔 gwella ansawdd d诺r, yn creu cynefin gwlyptir gwerthfawr ac yn cysylltu pobl Caer yn well 芒 natur.鈥

Dywedodd Alan Carter, Prif Weithredwr The Land Trust, 鈥淢ae The Land Trust wrth ei bodd gyda鈥檙 cam pwysig hwn yn nes at ddechrau gweithio ar broject Gwlyptir Caer. Bydd y cynefinoedd gwlyptir newydd a gwell yn darparu manteision gwirioneddol i fioamrywiaeth, a bydd yr isadeiledd arfaethedig ar gyfer ymwelwyr yn gwella mynediad a mwynhad i ymwelwyr o bob cwr o'r cymunedau lleol.鈥

Gobeithir y bydd y gwaith paratoi yn dechrau ar y safle haf 2027.