Arweiniwyd y rownd ariannu gan y buddsoddwr biotechnoleg Dr Urs Spitz, ochr yn ochr 芒 ffynonellau ariannu ychwanegol. Bydd y buddsoddiad yn galluogi鈥檙 cwmni i symud ymlaen 芒 cherrig milltir gwyddonol allweddol, gan ddod 芒鈥檌 raglen therapiwtig flaenllaw yn nes at ddatblygiad clinigol, yn ogystal 芒 chefnogi creu swyddi newydd gwerth uchel yng Nghymru.
Sefydlwyd Awen Oncology ar sail ymchwil gydweithredol ym Mhrifysgol Bangor, gyda鈥檙 cwmni鈥檔 deillio o waith ymchwil a gynhaliwyd yn Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin y Brifysgol. Ymhlith cyd-sylfaenwyr y cwmni mae Dr Ramsay McFarlane a Dr Jane Wakeman o Brifysgol Bangor, ochr yn ochr 芒鈥檙 Athro Andrea Brancale, gynt o Brifysgol Caerdydd.
Mae鈥檙 cwmni鈥檔 canolbwyntio ar ddatblygu therap茂au arloesol gyda鈥檙 potensial i drawsnewid triniaeth canser. Mae ei raglen flaenllaw yn targedu math prin o ganser yr esgyrn lle mae angen clinigol sylweddol heb ei ddiwallu ar hyn o bryd, gyda鈥檙 potensial i鈥檙 ymchwil gael cymwysiadau ehangach ar draws canserau mwy cyffredin.
Mae Awen Oncology wedi鈥檌 leoli ym M-SParc, parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, sy鈥檔 cefnogi busnesau arloesol a gweithgarwch ymchwil a datblygu yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, 鈥淢ae llwyddiant Awen Oncology yn dangos cryfder yr ecosystem arloesi rydym yn ei adeiladu, lle gall busnesau gael mynediad at y cyfleusterau, y rhwydweithiau a鈥檙 gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ehangu. Dw i鈥檔 falch iawn bod y buddsoddiad hwn nid yn unig yn cyflymu taith y cwmni tuag at effaith glinigol, ond hefyd yn dod 芒 swyddi a phrofiad gwerth uchel i鈥檙 rhanbarth.鈥
Fel rhan o鈥檙 buddsoddiad, bydd Dr Spitz yn ymuno 芒 bwrdd y cwmni, gan ddod 芒 phrofiad rhyngwladol helaeth o gefnogi a thyfu cwmn茂au biotechnoleg drwy gamau clinigol a masnachol.
Dywedodd Dr Ramsay McFarlane, Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Awen Oncology, 鈥淢ae sicrhau鈥檙 buddsoddiad hwn yn nodi carreg filltir bwysig i Awen Oncology wrth i ni barhau i ddatblygu ein llinell therapiwtig. Bydd yn ein galluogi i gyrraedd cerrig milltir gwyddonol hollbwysig wrth gryfhau ein t卯m gyda thalent fedrus iawn yma yng Nghymru.
鈥淢ae ein prif raglen yn targedu math prin o ganser yr esgyrn sydd ag angen clinigol sylweddol heb ei ddiwallu, gyda chymwysiadau posibl ar draws canserau mwy cyffredin. Ein nod yn y pen draw yw darparu triniaethau sy鈥檔 gwella 鈥 ac o bosibl yn achub 鈥 bywydau.鈥
Mae鈥檙 ymchwil sy鈥檔 sail i waith Awen Oncology wedi cael ei chefnogi gan Ymchwil Canser Cymru, gan adeiladu ar fwy na 15 mlynedd o fuddsoddiad mewn ymchwil canser sylfaenol yng Nghymru.
Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil Ymchwil Canser Cymru, 鈥淔el elusen ymchwil canser Cymru ac un o brif gyllidwyr ymchwil canser yng Nghymru, rydym yn falch o fod wedi cefnogi sylfeini鈥檙 gwaith hwn dros fwy na 15 mlynedd. Mae鈥檔 galonogol gweld yr ymchwil hon yn symud ymlaen tuag at effaith byd go iawn i gleifion.鈥
鈥