CAM 5: Hanfodion Teithio
Mae'r canlynol yn amlinellu pethau sylfaenol o ran synnwyr cyffredin wrth gynllunio i deithio i rai gwledydd.
Mae dolenni’r Dudalen Gwefan Teithio yn darparu amrywiaeth o ffynonellau i ateb unrhyw ymholiadau, a dolen i Llawlyfr Teithio Staff a Myfyrwyr y Brifysgol. Ar gyfer teithio i Goleg Bangor yn Tsieina, gwelwch y pwrpasol.
Mae'r yn ddull cynllunio defnyddiol arall, yn cynnwys y pwyntiau hanfodol 'cyn i chi fynd' i sicrhau eich bod yn ystyried fis芒u, iechyd ac ati a phethau eraill 芒 chyfyngiadau amser.
Hyfforddiant: |
Gwnewch y modiwl E-ddysgu Teithio ar sy'n cadarnhau trwy e-bost pan fyddwch wedi cwblhau’r modiwl. Os ydych yn teithio i ardaloedd risg uwch neu'n cynnal gweithgaredd risg uwch, gwiriwch bob amser am ofynion hyfforddiant arbenigol. Trefnwch, yn 么l yr angen. |
Achosion o argyfwng: |
Byddwch yn barod am sefyllfaoedd 'beth os' a gwnewch yn si诺r bod gennych yr holl rifau cyswllt a manylion yswiriant teithio perthnasol rhag ofn y bydd argyfwng. Fel rhan o hyn, ystyriwch anawsterau yn gysylltiedig 芒 sut byddech yn galw am gymorth. Er enghraifft, efallai na fydd eich ff么n symudol yn gweithio mewn rhai gwledydd, neu efallai y bydd angen i chi brynu cerdyn SIM penodol. Ap defnyddiol yw a fydd yn eich helpu chi ac eraill i ddod o hyd i'ch union leoliad unrhyw le yn y byd. |
Cefnogaeth Frys: |
Prifysgol Bangor 24/7/365: +44 1248 38 2795 CEFNOGAETH FEDDYGOL AC MEWN ARGYFWNG Global Response +44 (0) 203 859 1492 E-bost: UMAL@global-response.co.uk (Cyf: UMAL 026) |
Dogfennau: |
Pasbort: Gwiriwch tan pryd mae’n ddilys a thynnwch lun o dudalen manylion eich pasbort. E-bostiwch hwn i chi'ch hun ar gyfeiriad e-bost hawdd ei gyrchu (fel gmail.com, yahoo.mail) a'i rannu 芒'ch cyswllt brys. Gwiriwch am wledydd nad ydynt yn hoffi stampiau gwledydd penodol ar eich pasbort. Fisa: Sicrhewch eich bod wedi gofyn am Fis芒u ar gyfer y gyrchfan a'r wlad y teithir drwyddi, a bod y rhain yn addas ar gyfer y gweithgaredd dan sylw a hyd y daith. Gwybodaeth am Westai a Theithiau Awyren: Cadwch y wybodaeth hon mewn lleoliadau lluosog, gan gynnwys gyda theulu, ffrindiau, neu gydweithwyr fel y bo'n briodol. |
Diwylliant: |
Ymchwiliwch i arferion lleol a chrefyddol cyn y daith. Gall y rheini hyd yn oed amrywio o ranbarth i ranbarth. Er enghraifft, arferion o ran dillad, mynegi hoffter at rywun, yfed alcohol. Cofiwch barchu hynny. Cofiwch y cyfyngiadau, e.e. mae rhai gwledydd yn cyfyngu mynediad i'r rhyngrwyd ac yn gwahardd ffilmio / tynnu lluniau mewn rhai safleoedd. Byddwch yn ofalus hefyd wrth ymdrin 芒 materion sensitif, e.e. gwleidyddiaeth, emosiynau mwy cignoeth yn ystod gwyliau crefyddol. Byddwch yn barod, gall anifeiliaid a phobl hyd yn oed gael eu trin yn wahanol i'r hyn a welir ym Mhrydain. |
Llety: |
Yn ddelfrydol, archebwch le sy'n hysbys i chi neu gofynnwch i gydweithwyr, ffrindiau neu deulu a fu鈥檔 teithio yn yr ardal o'r blaen neu siaradwch 芒'ch cyswllt tramor am gyngor neu defnyddiwch Asiant / Safle archebu sydd ag enw da. Dylid nodi, ni anogir defnyddio darparwyr llety preifat fel Airbnb. Ar 么l cyrraedd, dylech ymgyfarwyddo 芒鈥檙 allanfeydd t芒n ac yn y blaen, a chloi鈥檙 ystafell, hyd yn oed os mai dim ond picio i mewn ydych chi. Rhag ofn i chi fynd ar goll, cofiwch gario manylion eich llety: eich enw, eich cyfeiriad, a鈥檆h rhif ff么n gyda chi. |
Trafnidiaeth: |
Archebwch gyda sefydliadau dibynadwy, e.e. rhai a warchodir gan ATOL. Mae cyflwr cerbydau a'r ffordd mae pobl yn gyrru yn amrywio ledled y byd, (nid pa ochr o'r ffordd y maent yn gyrru yn unig!) a all wneud gyrru a hyd yn oed cerdded yn anodd. Gofynnwch i gysylltiadau tramor neu鈥檙 gwesty am gyngor yngl欧n 芒 thrafnidiaeth 'ddiogel', e.e. thrafnidiaeth gyhoeddus, cwmn茂au tacsis, cerbydau i'w llogi gyda gyrrwr. |
Lles Cyffredinol: |
Cofiwch efallai na fydd d诺r tap yn ddiogel i'w yfed neu efallai fod mwynau gwahanol ynddo a all achosi anhwylder ar y stumog. Gall y mathau o fwyd sydd ar gael a safonau hylendid cyffredinol, gan gynnwys y math o doiledau hefyd fod yn wahanol ledled y byd. Cynlluniwch ar gyfer gofynion deietegol penodol os nad yw'n hawdd eu cael dramor. Cariwch ddigon o hancesi papur wrth gefn (rhag ofn na fydd papur toiled) a gel gwrthfacteria i lanhau鈥檙 dwylo. Gweler Hanfodion Iechyd ar gyfer Teithio am fwy o gyngor ar iechyd a lles cyffredinol. Cariwch dipyn o ddillad gl芒n yn eich bag llaw rhag ofn i'r ces mawr fynd ar goll. Os oes modd, ewch 芒 sbectol a / neu lensys llygad wrth gefn. Plis ewch i dudalennau gwe a gwybodaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Chymorth i Staff os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch tra byddwch dramor. |
Diogelwch Cyffredinol: |
|
Dwyn: |
Peidiwch 芒 chario dim byd gwerthfawr, pasbortau, cardiau credyd ac ati oni bai bod angen. Cadwch arian cyfred mewn ychydig o lefydd. Os nad oes mo鈥檜 hamgen arnoch, cadwch nhw mewn lle diogel, megis s锚ff y gwesty. Ewch 芒 chop茂au o ddogfennau hanfodol, e.e. yswiriant, pasbort, fisas, neu gadw copiau electronig mewn lle hwylus fel eich cyfrif e-bost. Nodwch rifau cyswllt darparwyr allweddol mewn argyfwng, e.e. banc, ff么n symudol. Amgryptiwch liniaduron a mynd 芒 cho bach USB i storio / lawrlwytho gwaith wrth i chi fynd ymlaen. Yn aml, nid yw rhwydweithiau Wi-Fi cyhoeddus (e.e. mewn meysydd awyr, gwestai, caffis) yn ddiogel a gallant amlygu dyfeisiau i ryng-gipio, meddalwedd faleisus, neu fynediad heb awdurdod. Rhowch wybod am ladradau bob amser i'r heddlu, cwmni hedfan neu westy a chael adroddiad ysgrifenedig am y digwyddiad. Bydd ar gwmniau yswiriant angen tystiolaeth o'r golled. Sicrhewch fod eich bagiau sydd yn mynd ar yr awyren efo eich manylion (enw, rhif ff么n, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad y Brifysgol) a'ch taith ar ddarn o bapur y tu mewn, rhag ofn y bydd tagiau allanol yn cael eu colli wrth eu cludo. Tynnwch lun o'ch bagiau a'u cynnwys at ddibenion yswiriant. Ystyriwch ddefnyddio Tagiau Awyr neu debyg yn eich bagiau i olrhain os oes angen. |
| Lleoliadau / Gweithgareddau: | Ystyriwch yr holl fannau y byddwch yn ymweld 芒 nhw ar y daith a pha weithgareddau y byddwch yn eu gwneud er mwyn sicrhau bod gennych ddillad addas ac yn y blaen. Mae hynny鈥檔 cynnwys yr amgylchedd yn gyffredinol e.e. mae canol dinas, pa mor uchel yw鈥檙 lle, yr arfordir a鈥檙 tywydd yn gallu amrywio鈥檔 fawr o le i le mewn gwlad. |
| Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: | Trafodwch eich anghenion cyn gadael er mwyn gwneud addasiadau rheysmol lle bo modd. Fel gydag unrhyw daith dramor mae'n ddoeth ymchwilio i ddarpariaeth gyffredinol y cyfleusterau mewn man arbennig cyn mynd ar y daith. Adolygwch ganllawiau penodol i wledydd ar gyfreithiau lleol, agweddau cymdeithasol a risgiau gwahaniaethu posibl (gan gynnwys diogelwch LGBTQ+, rhyw, crefydd a chodau gwisg) drwy . |
| Digwyddiadau: | Cofiwch roi gwybod am bob digwyddiad sy'n digwydd tra byddwch dramor, drwy lwybr rhoi gwybod am iechyd a diogelwch Prifysgol Bangor. |