Arweiniad Byr i鈥檙 Ardal
Diwylliant ac Atyniadau Bangor
Mae Bangor yn ddinas hanesyddol sy鈥檔 llawn cymeriad, gyda digon i鈥檞 weld a gwneud yma. Os ydych yn cerdded o amgylch un o hen adeiladau鈥檙 ddinas yn dysgu mwy am yr hanes neu鈥檔 manteisio o鈥檌 lleoliad gwych, diflaswch chi fyth ar Fangor.
Yr Amgueddfa a鈥檙 Oriel...
I wybod mwy am hanes a diwylliant y ddinas, dylech ymweld ag Amgueddfa Bangor ar Ffordd Gwynedd. Yno cewch gyfle i edrych drwy hen greiriau a gweld sut beth oedd bywyd pob dydd yn yr ardal tua 2,000 o flynyddoedd yn 么l. Mae yno hefyd Oriel Gelf sy鈥檔 arddangos gwaith ystod eang o artistiaid gan gynnwys paentiadau hanesyddol a chelf fodern.
Yr Eglwys Gadeiriol...
Y peth amlycaf am Fangor yw鈥檙 Eglwys Gadeiriol ddeniadol sy鈥檔 sefyll yng nghanol y ddinas. Wedi ei sefydlu yn 525 O.C., dyma un o鈥檙 eglwysi cadeiriol hynaf ym Mhrydain. Mae鈥檙 gadeirlan wedi ei hailadeiladu sawl tro ers iddi gael ei sefydlu yn gyntaf gan Sant Deiniol. Cafodd yr adeilad sydd yno heddiw ei adeiladu rhyw dro rhwng 1870 ac 1880. Mae bedd un o dywysogion Cymru, Owain Gwynedd, hefyd i鈥檞 weld yno. Os ydych chi鈥檔 ymweld 芒鈥檙 Eglwys Gadeiriol, pam na dreuliwch chi ychydig funudau yng ngardd y Beibl sydd o鈥檌 blaen.
Y Pier...
Mae gan Fangor bier Fictoraidd a gafodd ei adeiladu yn 1896 ac yna ei adfer yn yr 1980au. Mae鈥檙 pier yn ymestyn hanner ffordd dros y Fenai ac mae wedi ei amgylchynu a nifer o dafarndai traddodiadol a thai bwyta. Mae鈥檙 pier hefyd yn lle poblogaidd gan fyfyrwyr sy鈥檔 astudio tuag at arholiadau ym misoedd cynnar yr Haf.
Siopau...
Pan mae鈥檔 dod i siopa, mae gan Fangor rhywbeth i blesio pawb, mae amrywiaeth o siopau bach a mawr yma yn ogystal 芒 chanolfan siopa fodern.
Mae Bangor yn ymfalchio yn y ffaith fod ganddi鈥檙 Stryd Fawr hiraf yng Nghymru sy鈥檔 cynnwys cymysgedd dda o siopau gan gynnwys enwau adnabyddus a busnesau bach.
Ni fydd raid i chi adael y ddinas i ddod o hyd i鈥檙 hyn yr ydych ei angen, boed o鈥檔 ddilledyn newydd, yn llyfr Cymraeg, yn offeryn cerddorol neu hyd yn oed yn bysgodyn aur.
Gerddi Botanegol...
Os ydych yn hoff o natur mi fyddwch chi wrth eich bodd yng ngerddi botanegol Treborth. Mae鈥檙 Brifysgol yn defnyddio鈥檙 gerddi am resymau addysgol ac i wneud ymchwil ond maent hefyd yn agored i鈥檙 cyhoedd. Mae鈥檙 gerddi yn gorchuddio 40 acer o dir ac yn cynnwys dros 2,000 o wahanol fathau o blanhigion a bywyd gwyllt.
Rhaeadr Fawr...
Mae miloedd o bobl yn teithio i Abergwyngregyn pob blwyddyn i weld y Rhaeadr Fawr. Mae wedi ei lleoli rhwng y mynyddoedd a鈥檙 arfordir oddi ar yr A55. Credir mai鈥檙 Rhaeadr Fawr yw鈥檙 rhaeadr serchaf yng Nghymru a Lloegr.
Y Pontydd...
Pan ewch i Ynys M么n o Fangor, bydd rhaid i chi groesi naill ai Pont Menai a gafodd ei hadeiladu gan Thomas Telford neu Bont Britannia a gafodd ei hadeiladu fel pont rheilffordd. Pont Menai oedd y cysylltiad cyntaf rhwng Ynys M么n a鈥檙 tir mawr.
I gael blas am yr hyn sy鈥檔 eich disgwyl yr ochr arall i鈥檙 bont ac yn yr ardal gyfagos, ewch i鈥檔 tudalennau Tu Hwnt i Fangor neu weld am fwy o atyniadau.