Cymorth Ariannol
Mae Cymorth Ariannol yn rhan o dîm Llwyddiant Myfyrwyr, a gall yr aelodau staff profiadol roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr.
Sut gallwn ni eich helpu chi
Poeni am gostau byw fel myfyriwr? Ewch i’n tudalen Costau Byw a Chymorth Ariannol i gael cyngor ac arweiniad ar gadw eich costau i lawr tra’n byw fel myfyriwr.
 Os ydych chi’n poeni am arian, yna mae Cymorth Ariannol yma i helpu. Gall ein cynghorwyr eich helpu:
- asesu eich sefyllfa ariannol a’ch cefnogi i greu cyllideb gwariant a fydd yn diwallu eich anghenion hanfodol.
- gwnewch yn siŵr eich bod yn cael mynediad at eich hawliau cyllid myfyrwyr llawn a chywir, GIG Cymru a bwrsariaeth Bangor
Mae gennym nifer o sytemau cymorth ar waith i’ch helpu gyda phroblemau ariannol gan gynnwys:
- Cronfa caledi prawf modd a benthyciadau tymor byr. Dewch o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, gan gynnwys y Gronfa Caledi, ar dudalennau gwe Cymorth Ariannol.
- Grantiau Argyfwng a thalebau bwyd pan fo angen dybryd.
Beth bynnag fo’ch pryderon ariannol, mae ein Cynghorwyr Ariannol yma i helpu.
Am wybodaeth bellach
- Cyllid israddedig ar gyfer cyrsiau llawn amser a rhan amser
- Cyrsiau Israddedig wedi eu cyllido gan y GIG
- Cyllid ôl-raddedig
- Cyllido Cwrs TAR
- Cyllidio ar gyfer cyrsiau Diploma Addysg Uwch ac MSc GIG
- Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Prifysgol
- Cyllid i Fyfyrwyr Presennol
- Cronfa Caledi a Grantiau Argyfwng
- Cyllidebu
- Myfyrwyr â Phrofiad Gofal
- Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
- Cefnogi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr
- Cefnogaeth i Fyfyrwyr gyda Phlant neu Oedolion Dibynnol
Sut i gysylltu gyda Cymorth Ariannol
| ¹ó´Úô²Ô | Ebost |
|---|---|
| 01248 38 3637 | cymorthariannol@bangor.ac.uk |
Mae Cymorth Ariannol yn rhan o dîm Llwyddiant Myfyrwyr: Tîm Cyngor Myfyrwyr, a gall staff profiadol roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr.
Sut i gysylltu â Chymorth Ariannol lle bynnag yr ydych wedi'ch lleoli
Gallwch ein ffonio, anfon e-bost atom neu.